Syniadau

Helpu i Ddatblygu a Diogelu Eich Syniadau – gallwn droi eich syniadau yn llwyddiant.

 

Unwaith mae gennych syniad newydd neu ar ôl i chi ddatblygu cynnyrch, proses neu wasanaeth, gallwn helpu i ddod o hyd i bartneriaid masnachol ar gyfer cytundebau trwyddedu neu weithgynhyrchu.

 

Mae hefyd yn bwysig i ddiogelu eich syniadau yn gyfreithiol.  Rydym yn cynnig cyngor ac arian i ddiogelu eich Eiddo Deallusol. Ewch i’r dudalen Ariannu i gael mwy o fanylion.

 

Rydym hefyd yn gweithio’n agos â Swyddfa Eiddo Deallusol y DU. I gael mwy o wybodaeth am Eiddo Deallusol, ewch i wefan Swyddfa Eiddo Deallusol y DU.

 


Dyfeiswyr

 

Os ydych yn ddyfeisiwr sy’n gweithio ar eich pen eich hun, rydym hefyd yn rhedeg rhwydwaith sy’n benodol ar eich cyfer chi – ewch i wefan Rhwydwaith Dyfeiswyr Cymru (WIN).

 


Gwybodaeth, Syniadau ac Atebion

 

Os ydych yn chwilio am syniadau i’ch helpu i ddatrys problem, rydym yn darparu mynediad i wybodaeth mewn sefydliadau academaidd, ynghyd ag arferion gorau ac arbenigedd mewn busnesau eraill.

 

Gallech hefyd ymuno â rhwydwaith busnes sy’n seiliedig ar sectorau er mwyn rhannu syniadau a chael gwybodaeth reolaidd am y dechnoleg ddiweddaraf.

 

I gael mwy o wybodaeth am yr uchod,  Cysylltwch â Ni.

 


ASTUDIAETH ACHOS LEOL - SkiWeb

"Fy ngwr, Peter, wnaeth ddyfeisio SkiWeb - gwregys arbennig i gario cyfarpar sgio lletchwith - pan gafodd ddigon ar gario setiau o sgis a pholion i'r holl deulu ar wyliau sgio yn y Swisdir', eglurodd Sian Brooks.

 

"Roedd dyfeisio a datblygu'r prosiect yn rhwydd –y drafferth oedd nad oedden ni’n gwybod beth i'w wneud nesaf! Fe wnaethon ni gysylltu â Rhwydwaith Arloeswyr Cymru i ofyn am gyngor  ac roedden nhw’n wych. Fe wnaethon nhw egluro’r  broses gam wrth gam  a mynd â ni yn raddol drwy bob cam mewn modd trefnus iawn".