Marchnadoedd Newydd

Cymorth i chwilio am farchnadoedd newydd a thrwyddedu eich datblygiadau technolegol

 

Rydym yn rhedeg cangen Cymru o Rwydwaith Menter Ewrop (Canolfan Cyfnewid Arloesedd Cymru gynt). 

 

Gallwn eich rhoi mewn cysylltiad â busnesau ledled Ewrop, a threfnu digwyddiadau rhwydweithio broceriaeth.

 

Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Rhwydwaith Menter Ewrop yng Nghymru.

 

 

Rydym hefyd yn cynhyrchu cylchgrawn technoleg chwarterol am ddim o’r enw Advances Wales – i gofrestru ewch i dudalen y Cyhoeddiadau ar Arloesi.

 


ASTUDIAETH ACHOS LLEOL – Ergonomeg

 

"Pan gafodd y dylunydd cynnyrch Nick Williams,  ei syniad yn wreiddiol am system gymorth arloesol i’r meingefn, ni feddyliodd erioed y byddai wedi cymryd cymaint o amser i gael y cynnyrch i mewn i'r farchnad.

 

Wedi cael cymorth gan sawl maes o dan y tîm Arloesi a Thechnoleg, cafodd y syniad ei ddiogelu, cwblhawyd y broses o’i ddatblygu a chomisiynwyd yr offeru.

 

Yna cysylltodd â Rhwydwaith Menter Ewrop yng Nghymru a chael cymorth i ddod o hyd i ddefnyddwyr posibl y cynnyrch.

 

Wedi postio Cynnig Technoleg o gwmpas y rhwydwaith, derbyniodd gynigion o lefydd ar draws Ewrop ar gyfer seddau swyddfa, seddau meddygol a chymwysiadau awyrennau. Y cyntaf i arwyddo cytundeb trwyddedu byd-eang yw Samas yn yr Iseldiroedd - un o brif fusnesau seddau swyddfa Ewrop, a'r mwyaf arloesol".