 |
|
“Yn sgil y gefnogaeth
rydym wedi’i derbyn gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, rydym wedi
gallu manteisio ar arbenigedd ar adeg hollbwysig yn nhwf ein
busnes. Mae’r berthynas hon wedi caniatáu i ni wneud y
defnydd gorau o’n model ariannol er mwyn i ni allu symud yn ein
blaenau.”
- Stella
Jones, Cyfarwyddwraig - 365 Direct Ltd.
|
Gall y Gronfa Fuddsoddi Sengl gynorthwyo
busnesau o bob maint gyda’r canlynol:
- dechrau
- ehangu
- moderneiddio
- ailstrwythuro
- datblygu cynhyrchion, prosesau neu
wasanaethau newydd
Os yw eich busnes yn gweithredu y tu hwnt i’r
farchnad leol ac os oes angen cymorth arnoch gyda phrosiect yng
Nghymru, gallech fod yn gymwys i fanteisio ar gymorth ariannol
trwy’r Gronfa Fuddsoddi Sengl sydd wedi disodli’r hen system
grantiau yng Nghymru.
Mae’n bosibl y bydd Mentrau Cymdeithasol hefyd
yn gymwys am gymorth os ydyn nhw’n fasnachol weithredol (lle daw o
leiaf 50% o’u hincwm neu elw o fasnach y busnes).
Yr isafswm o ran cymorth a roddir ar gyfer
prosiectau buddsoddi cyfalaf yw £5,001, ond os bydd angen llai ar
eich prosiect, cysylltwch
â ni am wybodaeth am ffynonellau cymorth posibl eraill. Nid oes
isafswm ar gyfer cymorth refeniw trwy’r Gronfa Fuddsoddi Sengl.
Bydd maint y cymorth yn amrywio yn ôl natur,
anghenion a lleoliad eich prosiect. Gall fod lefelau uwch o gymorth
ar gael mewn rhai Ardaloedd penodol a
Gynorthwyir.
Caiff Rheolwr Cysylltiadau penodol ei neilltuo
ar gyfer busnesau cymwys, a bydd ef/hi yn helpu i ddatblygu pecyn o
gymorth busnes a fydd wedi ei deilwra’n benodol ar eich cyfer.
Sut i wneud cais
Am fwy o wybodaeth lawrlwythwch Ffurflen Gronfa
Fuddsoddi Sengle (PDF, 276KB) Yn agnor mewn
ffenestr newyop (Dwyieithog)
I fynegi diddordeb mewn gwneud cais am
gymorth, llenwch un o’r ffurflenni isod:
Ffurflen Datgan
Diddordeb i'w Lawrlwytho (DOC, 359KB) Yn agnor mewn ffenestr newyop (i'w argraffu
a chwblhau)
Ffurflen
Datgan Diddordeb Electronig (i'w gwblhau ar-lein)
Lawrlwythwch
Acrobat Adobe Reader
Lawrlwythwch lawr
Microsoft Word Viewer Yn agnor mewn ffenestr
newyop