Adwy i adeiladau busnes

 

Huw Davies“Mae cefnogaeth busnes gan Lywodraeth Cynulliad Cymru wedi helpu Boomerang i ddod

yn gwmni pwysig yn Niwydiant Cyfryngau’r DU.”

 - Huw Davies, Boomerang+

 

Os oes angen cymorth neu gefnogaeth arnoch yng nghyd-destun materion eiddo

masnachol, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnig Gwasanaeth Eiddo a Seilwaith proffesiynol i fusnesau yng Nghymru.

 

Gan weithio’n annibynnol, neu ar y cyd â’r sectorau cyhoeddus neu breifat, rydym yn caffael safleoedd seilwaith a’u paratoi ar gyfer eu datblygu. Gall hyn fod ar gyfer defnydd diwydiannol, masnachol, manwerthu, hamdden breswyl, mewn trefi ac yng nghefn gwlad. 

 

Gellir cael cymorth ariannol ar gyfer buddsoddi cyfalaf neu wella’r amgylchedd. Mae’r holl gyllid a gynigir yn ôl disgresiwn ac yn destun meini prawf cymhwysedd.

 

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cynnal Cronfa Ddata Eiddo Cymru, sy’n cynnwys manylion eiddo diwydiannol a masnachol. Drwy ddefnyddio’r gronfa ddata hon gallwn ddod o hyd i eiddo gwag sy’n addas ar gyfer eich gofynion.