Mae ailddatblygu’r gweithfeydd haearn yng Nglynebwy yn rhoi cyfle i
osod y safon ar gyfer datblygu cynaliadwy. Bydd
Prosiect
Glynebwy yn arwain at fanteision tymor hir ar gyfer
Glynebwy a chymuned ehangach Blaenau Gwent.
Bydd y prosiect yn cael ei gyflwyno fel
Partneriaeth Cyhoeddus/Preifat a fydd yn buddsoddi £300 miliwn i’r
ardal dros oes y prosiect. I gael gwybodaeth
gyffredinol am y prosiect, cliciwch yma
Bydd contractwyr preifat sydd ynghlwm wrth y
prosiect yn cael eu hannog i hysbysebu cyfleoedd busnes sydd ar
gael yn y prosiect hwn ar wefan
Y Siop Gytundebau.
Drwy gofrestru eich cwmni ar
Y Siop Gytundebau, gallwch ofyn am gael gwybod am yr holl
gyfleoedd busnes a hysbysebir ar gyfer prosiect Glynebwy.