Fel ymateb i’r bwriad i gau
gorsaf bŵer yr Wylfa yn 2010, a goblygiadau posibl hynny i fusnesau
eraill yn y cyffiniau, mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi sefydlu
rhaglen ddatblygu economaidd tymor hir ar gyfer yr ardal.
Bydd y rhaglen, sef rhaglen Môn a Menai
(M²), yn cael ei datblygu ar y cyd â Chynghorau Ynys Môn a Gwynedd,
a bydd yn ymrwymo sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch, y
sectorau preifat, gwirfoddol a chyhoeddus, ar hyd a lled yr
ardal.
Bydd y themâu canlynol yn sylfaen i’r
strategaeth:
- datblygu economi ddeinamig gydag amrywiaeth
gynyddol o gwmnïau arloesol
- darparu gweithlu amrywiol a hyblyg
- cynnig elfen gref o dwristiaeth
- sicrhau canol trefi a mannau cyhoeddus
deniadol
Cliciwch yma am
fwy o wybodaeth am Cynllun Gweithredol Môn a Menai