Cwpan Ryder

GolferBydd cystadleuaeth Cwpan Ryder yn cael ei chynnal yng Ngwesty’r Celtic Manor, Casnewydd, ym mis Medi/Hydref 2010.

 

Taith Ewropeaidd y PGA sy’n gyfrifol am lwyfannu’r digwyddiad, ac am gontractio’r cynnyrch a’r gwasanaethau angenrheidiol. Fodd bynnag, maen nhw’n cydweithio’n agos â Chwpan Ryder Cymru, Llywodraeth Cynulliad Cymru a’r Celtic Manor i ddod o hyd i gyflenwyr posibl o Gymru ar gyfer y digwyddiad ei hun.

 

Ar hyn o bryd, maen nhw wedi nodi categorïau’r cynnyrch a gwasanaethau y disgwylir iddynt gael eu contractio’n allanol. Fodd bynnag, dim ond i gwmnïau sy’n bodloni meini prawf penodol y ,bydd tendrau yn cael eu cynnig. 

 

Os gall eich busnes fodloni’r meini prawf ar gyfer y categorïau a nodwyd, gallwch nodi bod gennych ddiddordeb a dysgu mwy am Gwpan Ryder 2010. I ddarganfod mwy am Cwpan Ryder, cliciwch yma