| Ddisgrifiad: | Rhwydwaith o ganolfannau deori busnes ar draws Cymru ydy Technium. Cynlluniwyd y canolfannau er mwyn magu busnesau technoleg ifanc drwy ddarpariaeth cyfleusterau o’r radd flaenaf, cefnogaeth busnes trylwyr a chysylltiadau gydag academia i gynorthwyo gydag ymchwil a datblygiad. Bydd gan gwmnïau'r opsiwn i rentu uned o fewn y ganolfan ac i fod yn rhith breswyliwr o fewn cynllun Aelodaeth Gysylltiol Technium. |