Cartref
>
Newydd
>
Allergy & Unpackaged Food Guide for Businesses
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (FSA) wedi cyhoeddi canllawiau newydd
i helpu busnesau bwyd i gynorthwyo cwsmeriaid sydd angen osgoi
cynhwysion penodol oherwydd alergedd bwyd.
Anelir y canllawiau at fusnesau sy'n gwerthu bwyd nas pecynnwyd,
megis bwytai, caffis, cownteri deli, siopau brechdanau a
phoptai.
Nid yw'n ofynnol yn ôl y gyfraith i fusnesau bwyd sy'n gwerthu
bwyd a baratowyd neu a lapiwyd ar y safle nodi p'un a yw'n cynnwys
cynhwysion y gallai fod gan bobl alergedd iddynt, megis cnau,
gwenith neu wyau.
Mae'r canllawiau yn rhan o waith parhaus yr Asiantaeth i helpu
busnesau i wella'r wybodaeth a gynigir ganddynt i gwsmeriaid sydd
ag alergeddau neu anoddefiadau bwyd.
Mae llyfryn a phoster sy'n ategu’r canllawiau yn cael eu
hyrwyddo drwy sefydliadau masnach sy'n cynrychioli manwerthwyr,
arlwywyr a chyflenwyr arlwyo yn y DU a thrwy swyddogion gorfodi
awdurdodau lleol.
Mae'r rhain yn rhoi cyngor o ran pa gynhwysion sy'n gallu achosi
problemau a sut y dylid ymdrin â chwestiynau cwsmeriaid. Y nod yw
cyflwyno'r wybodaeth yn y llyfryn ac ar y poster mewn modd syml
sy'n hawdd i'w ddarllen.
Dywedodd Sue Hattersley, Pennaeth Polisi Alergedd Bwyd yn yr
Asiantaeth Safonau Bwyd: "Mae nifer o fusnesau bwyd eisoes yn dda o
ran rhoi gwybod i'w cwsmeriaid os oes unrhyw gynhwysion yn eu bwyd
a allai achosi problemau o ran alergeddau.
"Fodd bynnag, rydym am i bob busnes allu helpu eu cwsmeriaid
sydd ag alergeddau bwyd. Mae angen i'r sawl sy'n paratoi ac yn
gweini bwyd wybod am alergeddau bwyd ac am y wybodaeth sydd ei
hangen ar gwsmeriaid sydd ag alergeddau bwyd. Mae ein canllawiau
newydd, ynghyd â'r llyfryn a'r poster, yn rhoi cyngor defnyddiol i
fusnesau a dylent roi hyder ychwanegol i'w cwsmeriaid".
RHAGOR O WYBODAETH
Am ragor o wybodaeth ac i weld y canllawiau ewch i:
www.food.gov.uk/foodindustry/guidancenotes/labelregsguidance/nonprepacked
Am ragor o wybodaeth am alergeddau ac anoddefiadau bwyd o wefan
bwyta'n iach yr Asiantaeth Safonau Bwyd ewch i: www.eatwell.gov.uk/healthissues/foodintolerance