Control of Noise at Work Regulations for Music & Entertainment

Mae’r Rheoliadau Rheoli Sŵn yn y Gwaith 2005 (Rheoliadau Sŵn) bellach wedi dod i rym ar gyfer y sectorau cerddoriaeth ac adloniant, ac maent yn berthnasol i dafarnau a chlybiau, digwyddiadau cerddoriaeth fyw lle mae’r miwsig wedi ei chwyddo, cerddorfeydd ac adeiladau eraill lle mae cerddoriaeth fyw neu wedi ei recordio yn cael ei chwarae.

 

Mae 170,000 o bobl yn y DU yn dioddef byddardod, tinnitus neu gyflyrau eraill yn ymwneud â’r clustiau o ganlyniad i gael eu hamlygu i ormod o sŵn yn y gwaith.

 


 

NEWIDIADAU

 

-  rhaid i gyflogwyr yn awr sicrhau bod gwarchodaeth yn cael ei gwisgo a lle bo hynny’n angenrheidiol roi arwyddion i nodi cylchfaoedd gwarchod y clyw ar gyfartaledd o 85 desibel o amlygiad bob dydd neu bob wythnos.

 

-  rhaid i gyflogwyr asesu’r risg i iechyd gweithwyr a darparu gwybodaeth a hyfforddiant pe baent yn dymuno defnyddio gwarchodaeth ar 80 desibel

 

-  ceir ffin amlygu bellach o 87 desibel na ddylai gweithwyr cael eu hamlygu iddi, gan gymryd gostyngiad o ganlyniad i warchodaeth i’r clyw i ystyriaeth

 


 

GWYBODAETH BELLACH

 

I gael gwybodaeth bellach ymwelwch â’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ar eu gwefan yn: www.hse.gov.uk/noise/musicsound.htm sy’n cynnwys nifer o daflenni ffeithiau a dolennau defnyddiol.


I weld testun llawn Rheoliadau Rheoli Sŵn yn y Gwaith 2005 ymwelwch â gwefan Swyddfa Gwybodaeth y Sector Cyhoeddus (OPSI) yn : www.opsi.gov.uk/si/si2005/20051643.htm