Cafes, Bars & Restaurants Encouraged to Offer Tap Water

Mae Cyngor Defnyddwyr Cymru yn annog caffis, tafarnau a bwytai ledled Cymru a Lloegr i gynnig y dewis o ddŵr tap i'w cwsmeriaid fel dewis naturiol, ac yn galw ar y cyhoedd i ddechrau gofyn mewn allfeydd bwyd a diod am ddŵr tap.

 

Dywed y Cyngor fod dŵr tap yn ddiogel, wedi'i brofi'n llym ac yn cyrraedd y safon gorau erioed sy'n ei osod ymysg y gorau yn y byd.

 

Mae dŵr tap ar gael eisoes o fewn pob allfa bwyd a diod i sicrhau y gellir paratoi bwyd a diodydd yn ddiogel ac ar gyfer golchi llestri, felly nid oes unrhyw beth yn eu rhwystro i'w gynnig i gwsmeriaid a'i wneud yn brofiad pleserus.

 

Gyda dŵr tap yn costio tua degfed rhan o geiniog am litr, mae'n golygu y gall defnyddwyr fwynhau blwyddyn gyfan o yfed 2 litr o ddŵr y diwrnod, fel yr argymhellir yn gyffredinol, am gost pedwar stamp ail ddosbarth.

 


 

Dywedodd y Fonesig Yve Buckland, Cadeirydd Cenedlaethol y Cyngor Defnyddwyr Dŵr: "Mae'r rhan fwyaf o gaffis, tafarnau a bwytai eisoes yn gwneud eu gorau i sicrhau bod eu gwesteion yn mwynhau'r profiad gorau posibl bob tro - felly ni ddylai fod unrhyw broblem o ran darparu dŵr tap ffres i gwsmeriaid os mai dyna maent ei eisiau.

 

"Ni ddylai'r profiad o ofyn am ddŵr tap fod yn wahanol i ofyn am siwgr, halen neu bupur. Nid ydym yn gallu mynnu bod allfeydd bwyd a diod yn darparu dŵr tap am ddim, ond am gost o un geiniog ar gyfer tua hanner cant o wydrau, ni ddylai fod yn ormod i ofyn iddynt sicrhau ei fod ar gael ac wedi'i gyflwyno'n dda.

 

"Mae'r diwydiant dŵr potel yn gwario miliynau yn buddsoddi yn eu brandiau, a dyna beth y mae pobl yn talu amdano wrth brynu potel o ddŵr. Nid oes unrhyw fantais o ran iechyd o yfed dŵr potel yn lle dŵr o'r tap".


 

Cost dŵr tap ar gyfartaledd yw llai na 12% o geiniog y litr, felly gall rhywun yfed y 2 litr y dydd a argymhellir o'r tap, a thros flwyddyn byddai ond yn costio 85c. Byddai yfed y 2 litr a argymhellir y dydd o ddŵr potel (ar gyfartaledd o 69c y litr) yn costio £503.70 dros flwyddyn.

 

Yn ôl Sefydliad Polisi'r Ddaear, mae tua chwarter o'r holl ddŵr potel yn croesi ffiniau cenedlaethol i gyrraedd defnyddwyr.  Yn fyd-eang, defnyddir tua 2.7 miliwn tunnell o blastig i wneud poteli dŵr bob blwyddyn, a gall poteli dŵr a gleddir gymryd hyd at 1,000 o flynyddoedd i fioddiraddio. Mae cymaint â 40% o ddŵr potel yn dechrau fel dŵr tap - yn aml yr unig wahaniaeth yw yr ychwanegir mwynau nad ydynt yn cael effaith sylweddol ar iechyd.

 


 

RHAGOR O WYBODAETH

 

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Cyngor Defnyddwyr Cymru yn: www.ccwater.org.uk Rhif ffôn: 0845 039 2837 E-bost: enquiries@ccwater.org.uk