Lansiwyd llinell gymorth newydd yng Nghymru
gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Dr Brian Gibbons,
sydd â'r nod o amddiffyn pobl rhag benthycwyr arian
anghyfreithlon.
Sefydlwyd y llinell gymorth gan Adran Safonau
Masnach Caerdydd mewn partneriaeth â Phenaethiaid Adrannau Safonau
Masnach Cymru, ac mae'n rhan o Uned Fenthyca Arian Anghyfreithlon
Cymru Gyfan - sef tîm o swyddogion safonau masnach sy'n helpu pobl
sy'n cael problemau â benthycwyr arian anghyfreithlon ledled
Cymru.
Er bod y llinell gymorth wedi'i hanelu at
unigolion yn bennaf, dywed yr adrannau Safonau Masnach y gallai
rhai busnesau ac unig fasnachwyr fod wedi dioddef oherwydd
benthycwyr arian anghyfreithlon.
Dywedodd y Gweinidog fod y gwasanaeth yn gam
pellach ymlaen yn y frwydr i gael gwared â benthycwyr arian
anghyfreithlon drwy helpu i greu hinsawdd lle gall dioddefwyr fynd
at yr awdurdodau heb ofni dial.
Dywedodd Dr Brian Gibbons: "Gwyddom fod llawer
o bobl sy'n cael incwm isel yn methu â chael credyd fforddiadwy ac
yn aml yn gorfod chwilio am ddewisiadau amgen drud - o fenthycwyr
carreg drws i wystlwyr i fenthycwyr arian anghyfreithlon. Mae'r
'benthycwyr' hyn yn aml yn codi cyfraddau gormodol o fewn
amgylchedd o frawychiad a thrais.
Mae cyngor hygyrch ar faterion ariannol a
dyled a chredyd a benthyciadau fforddiadwy yn ddau o bum thema
graidd y Strategaeth Cynhwysiant Ariannol gyntaf y bydd Llywodraeth
y Cynulliad yn ei datblygu dros y flwyddyn sydd i ddod".
Hefyd pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd
undebau credyd wrth fynd i'r afael ag allgáu ariannol a chynnig
dewis amgen gwirioneddol i fenthycwyr carreg drws a benthycwyr
arian anghyfreithlon.
Aeth yn ei flaen i ddweud: "Mae undebau credyd
yn cynnig cyfleoedd i gael cyngor ar gynilion a chyllidebu yn
ogystal â mynediad i gredyd fforddiadwy a gwasanaethau ariannol
sylfaenol fel yswiriant. Ers 2000 rydym wedi buddsoddi £1.5
miliwn i ddatblygu mudiad cryf a chynaliadwy. Bellach mae gennym 33
o undebau credyd gweithredol sy'n cwmpasu'r rhan fwyaf o Gymru, a
chyda'n cefnogaeth barhaus credaf y bydd undeb credyd ar gyfer pob
rhan o Gymru maes o law.
Am ragor o wybodaeth ffoniwch y Llinell
Gymorth: 0300 123 3311.