London 2012 Business Network

PRIF GORFF

Lansiwyd Rhwydwaith Busnes Llundain 2012, sy'n rhoi'r cyfle i fusnesau ledled y DU - yn enwedig busnesau bach a chanolig - ymgysylltu â darpar bartneriaid, ac i gystadlu am waith sy'n gysylltiedig â Gemau Olympaidd Llundain 2012.

 

Mae'r rhwydwaith yn cynnwys tair elfen graidd:

 

- mynediad ar-lein i wybodaeth am weithgarwch caffael ac is-gontractio sy'n gysylltiedig â Llundain 2012

- manylion rhaglen genedlaethol o ddigwyddiadau busnes a gynhelir gan Lundain 2012

- y wefan ddewisedig ar gyfer cyhoeddi manylion cyfleoedd sy'n gysylltiedig â'r Gemau Olympaidd.

 


GWEFAN COMPETEFOR

Y wefan CompeteFor yw gwefan ddewisedig Llundain 2012, ac mae'n gweithredu fel gwasanaeth broceriaeth rhwng prynwyr a darpar gyflenwyr ar hyd cadwyn gyflenwi Llundain 2012. Disgwylir y bydd hyd at un o bob pump o gyfleoedd cadwyn gyflenwi Llundain 2012 yn mynd drwy'r system CompeteFor.

 


CONTRACTAU

Dyfarnwyd 500 o gontractau gwerth dros £1 biliwn eisoes, gyda 98% yn mynd i gwmnïau Prydeinig, a bron hanner wedi'u hennill gan fusnesau bach a chanolig  yn bennaf sydd wedi'u lleoli y tu allan i Lundain - mae'r trefnwyr yr honni fod hyn yn dangos y gallai'r Gemau Olympaidd fod o fudd i fusnesau ledled y DU.

 


GWEFAN Y RHWYDWAITH BUSNES

 

Mae gwefan y Rhwydwaith Busnes hefyd yn rhoi gwybodaeth am:

 

- canllawiau prosesau a pholisïau ar gyfer cyflenwyr gan Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd (ODA) a Phwyllgor Trefnu Gemau Olympaidd a Gemau Paralympaidd Llundain 2012 (LOCOG)

- cyfleoedd presennol

- cyfleoedd yn y dyfodol - rhestr chwilio o gyfleoedd yn y dyfodol sy'n gysylltiedig â'r gemau Olympaidd

- Cyflenwyr Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd  - rhestr o fusnesau sydd wedi cyflenwi Awdurdod Gweithredu'r Gemau Olympaidd

- e-rubyddion busnes

- cymorth busnes - manylion cyswllt asiantaeth datblygu rhanbarthol sy'n cynnig help a chyngor

- digwyddiadau busnes

- cwestiynau busnes cyffredin 

- gwaith gwirfoddoli ar gyfer 2012

- addysg

- nawdd

- cystadlu

 


RHAGOR O WYBODAETH

 

Am ragor o wybodaeth ewch i wefan Llundain 2012 yn: www.london2012.com/get-involved/business-network/index.php