Disgwylir i dîm newydd o ‘Scambusters’ a gefnogir gan gyllid y
Llywodraeth, dal gafael ar fasnachwyr drwg a thwyllwyr creulon
eraill yng Nghymru.
Bydd y tîm Safonau Masnach arbenigol wedi ei leoli yng
Nghasnewydd a Conwy.
Mi fyddant yn helpu awdurdodau lleol ar draws y wlad a’r heddlu
i stopio masnachwyr drwg, gwerthwyr drws i ddrws dirybudd, nwyddau
ffug, twyllwyr gwobrau raffl a thwyllon eraill.
Er mwyn rhoi gwybod am dwyllon neu unrhyw weithgaredd drwgdybus
arall cysylltwch â Safonau Masnach drwy’r llinell gymorth
Defnyddwyr Cymru ar rif ffon: 08454 04 05 06.
Am ragor o wybodaeth ar Safonau Masnach gweler: www.tradingstandards.gov.uk