Mae gan y sectorau meddygol a gwyddorau bywyd yng Nghymru
broffil amrywiol a bywiog iawn. Mae dros 290 o gwmnïau – fel
gweithgynhyrchwyr, darparwyr gwasanaethau, canolfannau
ymchwil o dan gontract, sefydliadau cymorth i fusnesau - yn
gweithio ochr yn ochr â sefydliadau academaidd clinigol a gwyddorau
bywyd sydd o bwys rhyngwladol.
Mae MediWales yn hyrwyddo ac
yn cefnogi’r sefydliadau hyn i lwyddo yn yr amgylchedd busnes
cystadleuol, sy’n cael ei nodweddu gan farchnadoedd byd-eang,
buddsoddiadau mawr mewn ymchwil a datblygu, a datblygiadau
technolegol sydyn. Mae’r ffactorau cymdeithasol a gwleidyddol sy’n
dylanwadau ar y maes gofal iechyd yn newid yr un mor gyflym.
Os ydy eich busnes yn rhan o’r sector hwn,
gall MediWales eich helpu i:
- fanteisio ar dechnoleg newydd;
- dod o hyd i gydweithredwyr posibl; a
- dod o hyd i gymorth ariannol.
I ymweld
â gwefan
MediWales am ychwaneg o wybodaeth,
cliciwch yma