Mae diwydiant adeiladu Cymru wedi
gweld cyfnod o dwf yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Crëwyd cyfleoedd cyflogaeth ar raddfa eang, na
welwyd mo’i thebyg o’r blaen, yn sgil ailddatblygu canol dinasoedd
ac ardaloedd y glannau ac yn sgil codi tai a fflatiau, canolfannau
siopa mawr ac adeiladau eiconig fel Stadiwm y Mileniwm a Chanolfan
y Mileniwm sy’n werth miliynau o bunnoedd.
Heddiw, mae 93,000 o swyddi ym maes adeiladu
Cymru, yn cynnwys pob math o fasnachau a phroffesiynau. Cyflogir y
bobl hyn gan tua 10,000 o fusnesau. Mae 90% o’r rheini yn fusnesau
bach sy’n cyflogi llai na 10 o bobl.
Mae’r busnesau’n amrywio o gwmnïau peirianneg
sifil mawr i fentrau arbenigol bach. Mae gan nifer o’r contractwyr
mwyaf bencadlysoedd parhaol yng Nghymru, gan gynnwys enwau fel
Costain, Westbury a Redrow.
Bwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu –
Sgiliau Adeiladu yw’r Cyngor Sgiliau Sector newydd sy’n
gyfrifol am arwain datblygiad sgiliau newydd yn y sector ffyniannus
hwn yng Nghymru.
I ddysgu mwy, ewch i
http://www.citb.org.uk/