Mae gan Gymru sector gwasanaethau
ariannol bywiog sydd ar gynnydd. Mae sylw yn cael ei roi i’r
diwydiant yn strategaeth datblygu economaidd Llywodraeth Cynulliad
Cymru, ‘Cymru: Economi yn Ffynnu’ fel sector twf
allweddol.
Banciau a chymdeithasau adeiladu sydd amlycaf
yn y sector yng Nghymru, gyda chwmnïau yswiriant a phensiwn yn
cynrychioli is-sector pwysig.
Mae gweddill y gweithlu yn cynnwys broceriaid
yswiriant, cynghorwyr ariannol annibynnol, rheolwyr cyllid,
rheolwyr asedau, stocbroceriaid, actiwarïaid, cyweirwyr colledion,
rheolwyr risg, a rheolwyr cyfoeth.
Ers y 1990au cynnar mae llawer o gwmnïau
gwasanaethau ariannol yn y DU a chwmnïau byd-eang wedi dechrau a
datblygu yng Nghymru.
Yn ogystal â hyn, mae cwmnïau brodorol fel
Cwmni Yswiriant Admiral a Chymdeithas Adeiladu’r Principality wedi
tyfu’n ddramatig dros y blynyddoedd diwethaf.