
Mae gan fwyd o Gymru enw da ers blynyddoedd am
ei arbenigrwydd a’i ansawdd da sy’n golygu ei fod yn boblogaidd
gyda phobl ym mhedwar ban byd. Gall Cymru ymfalchïo ei bod yn
cyflenwi cynnyrch sydd gyda’r gorau yn y byd. Mae’r dirwedd, fel y
bwyd, yn ffres, yn hyfryd ac yn amrywiol - meddyliwch am gaws a
gwin unigryw, cig eidion a chig oen heb eu hail, a physgod a bwyd
môr ffres - mae’r cyfan yng Nghymru.
Mae gan fwyd rôl bwysig i chwarae yn economi
Cymru, yn hafal a 55,000 o swyddi llawn amser mewn cynhyrchu a
phrosesu ar ei ben ei hun.
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn gweithio
gyda’i phartneriaid i elwa ac i adeiladu ar y cryfderau hyn ac i
ychwanegu gwerth at fwyd Cymreig ar bob un o ddolenni’r gadwyn
gyflenwi drwy amrediad o gymorth yn cynnwys:
- Cyngor arbenigol;
- gweithgareddau marchnata a rhwydweithio ar y cyd; a
- chymorth ariannol i gynlluniau cymwys.
Mae’r holl gefnogaeth yn ddewisol ac yn amodol
ar feini prawf cymhwysedd.
Cliciwch yma am canllaw i gyfleoedd cefnogi a
chyllido o fewn Is-adran Datblygu Bwyd a'r Farchnad Llywodraeth
Cynulliad Cymru.
Bwyd a Diod Cynlluniau
Datblygu (1220 k) 

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut yr ydym yn
cefnogi’r diwydiant bwyd yng Nghymru, cwblhewch ein holiadur ar
y safle, neu cliciwch yma am y
tudalen we 'Cymru y Gwir Flas'