Mae
Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant
Ynni, rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol i sicrhau bod Cymru yn
datblygu’n batrwm o gynhyrchu, cyflenwi a defnyddio ynni diogel a
glân.
Sefydlwyd y rhaglen EnergyNet
Cymru i gynyddu i’r eithaf werth y diwydiant ynni i
economi Cymru. Mae’r rhaglen yn darparu:
- cyfle i ddatblygwyr leihau costau drwy gydol
y gadwyn werth drwy ddatblygu cadwyn gyflenwi gymwys a chydlynol o
gwmnïau sydd wedi’u lleoli yng Nghymru;
- gwybodaeth am gyfleoedd perthnasol sydd ar
fin dod i’r amlwg;
- cymorth i gwmnïau sy’n gobeithio gwneud cais
am y cyfleoedd hyn;
- fforwm rhyngweithiol yn rhoi’r cyfle i
gwmnïau gynnig cydweithio ar gontractau mwy nag y gallent eu gwneud
ar eu pennau eu hunain, o bosibl; a
- chyfle i ddarparwyr gwrdd â chwsmeriaid
posibl.
I ddysgu mwy, ewch i http://new.wales.gov.uk/energynetwales/home/?lang=cy