Reolaeth Amgylcheddol

Recycle SymbolMae’r sector nwyddau a gwasanaethau amgylcheddol yng Nghymru wedi tyfu’n ddramatig dros y 5 mlynedd ddiwethaf, ac erbyn hyn mae’n gyfrifol am drosiant blynyddol o fwy na £1.2 biliwn. Gyda thua 1,300 cwmni, mae’r sector yn cyflogi tua 2% o weithlu Cymru ac, ar sail y twf ar hyn o bryd, amcangyfrifir cynnydd o 15,000 swydd erbyn 2010.

 

Gall y tîm Nwyddau a Gwasanaethau Amgylcheddol Cymru helpu eich busnes i ddatblygu ym marchnadoedd y DU ac mewn marchnadoedd rhyngwladol. Mae pob math o gyngor, gwybodaeth, digwyddiadau, cyfleoedd rhyngweithio a chefnogaeth arbenigol ar gael i’ch helpu chi a’ch busnes.

 

Os hoffech chi ddysgu mwy, cyswlltwch gyda ni