|
Pob blwyddyn, mae biliynau o fynnoedd o gyfleoedd busnes,
tendrau a chytundebau ar gael i fusnesau Cymru, bach a mawr.
Gallai cymdeithasau’r sector cyhoeddus cynnig cwsmeriaeth
hanfodol i fusnesau yng Nghymru ac annog busnesau Cymru i gystadlu
am gytundebau, tendrau a dyfynbrisiau'r sector cyhoeddus a
phreifat.
Mae mentrau adfywio mawr mewn ardaloedd er enghraifft Blaenau’r
Cymoedd, Môn a Menai a Glynebwy yn cynnig cyfleoedd enfawr i
fusnesau lleol. Ac mae hefyd digwyddiadau rhyngwladol unigryw er
enghraifft Gemau Olympaidd Llundain a Chwpan Ryder 2010 ble bydd
angen i gwmnïoedd a chonsortiau i gyflenwi amrediad eang o nwyddau
a gwasanaethau.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â chyfleoedd busnes mawr, tendrau
sector cyhoeddus a chytundebau sydd ar gael i chi, dilynwch y
dolennau ar y dde.
|