Eisoes mewn busnes?

Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cefnogi busnesau yng Nghymru, ac unrhyw un sy’n ystyried adleoli busnes i Gymru.  Mae ein cymorth yn cynnwys:

 

  • Cyngor busnes a gwybodaeth – cyffredinol neu arbenigol, e.e. allforio a mewnforio, datblygu cynnyrch newydd

 

  • Datblygu sgiliau

 

  • Dod o hyd i gysylltiadau busnes newydd a rhwydweithio

 

  • Cyllid

 

Gallwn roi cymorth ichi ar-lein, mewn cyfarfodydd un wrth un gyda chynghorydd busnes, neu mewn digwyddiadau lle y cewch gasglu wybodaeth a rhannu profiadau ag eraill.

 

Mae’r holl gymorth a gynigir gennym yn ôl disgresiwn, ac yn destun meini prawf cymhwysedd.

 

I ddysgu mwy am y cymorth a allai fod ar gael i’ch busnes, llenwch yr holiadur.